1.     Mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn croesawu ymholiad y pwyllgor i'r hyn sydd, yng nghred yr undeb, yn argyfwng yn y ddarpariaeth newyddion yng Nghymru. Yn ei faniffesto ar y cyfryngau yng Nghymru, galwodd yr NUJ am gael BBC sy’n perthyn i’r cyhoedd ac a ariennir gan ffi’r drwydded. Mae'n galw hefyd am fwy o oruchwyliaeth a chraffu ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad, ynghyd ag S4C lewyrchus, ag adnoddau priodol, ac a ariennir ac a reolir yng Nghymru.  Mae'n rhaid i ITV yng Nghymru fod yn ymrwymedig i ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus o ran newyddion a materion cyfoes, a chwarae rhan ganolog wrth daflu goleuni ar fywyd yng Nghymru.

2.     Dymuna'r undeb fynegi ei ddiolch am gefnogaeth y Cynulliad yn ystod Wythnos Mae Newyddion Lleol o Bwys yr undeb, yn cynnwys y datganiad o farn (OPIN--2017-0033 - Wythnos Mae Newyddion Lleol o Bwys) a alwodd am i bapurau lleol gael eu trin fel asedau cymunedol; am reolau newydd i atal allfeydd cyfryngau lleol rhag cau yn ddirybudd – dylid eu cynnig i ddarpar berchenogion newydd, yn cynnwys mentrau cydweithredol lleol, gan neilltuo amser ar gyfer cyflwyno cais am berchenogaeth amgen ar y cyfryngau cyn i unrhyw achos o gau ddigwydd; am i’r llywodraeth a chyflogwyr weithredu i atal y llif didostur o dorri swyddi; ac am gynyddu buddsoddiad, o amrywiaeth o ffynonellau, mewn newyddiaduraeth leol o ansawdd.

3.     Adroddodd Maniffesto Cymru'r NUJ ar yr argyfwng yn y cyfryngau yng Nghymru gyda thoriadau i swyddi newyddiadurol sydd wedi arwain i ostyngiad yn yr ymdriniaeth o sefydliadau democrataidd. Dywedodd: "Mae Cymru ble mae'r llywodraeth yn gweithredu, heb rywun i adrodd arni a heb ei herio, yn Gymru wannach. Mae Cymru ble mae llysoedd yn traddodi dedfrydau sy'n effeithio ar unigolion a'r gymdeithas gyfan, heb ofidio am bresenoldeb beirniadol y wasg, yn Gymru wannach. Mae Cymru ble mae buddugoliaeth mewn chwaraeon, coroni mewn eisteddfod neu ymgyrchu gan y gymuned yn mynd heibio heb eu cyhoeddi, yn Gymru wannach."

4.     Mae'r dirywiad mewn refeniw hysbysebu, y newid o argraffu i ddigidol, gyda grwpiau papurau newydd yn darparu eu gwefannau am ddim ac yna'n codi pris papurau newydd, wedi cael effaith andwyol ar gylchrediad. Mae hwn yn ffenomen byd-eang a gellid dadlau bod y ddarpariaeth newyddion yng Nghymru wedi dioddef yn arbennig oherwydd y duedd hon. Er bod trafnidiaeth ddigidol ar gynnydd, nid yw refeniw hysbysebu yn dilyn yr un patrwm. Yn ôl Cymdeithas y Cyfryngau Newyddion, daw refeniw'r mwyafrif llethol o sefydliadau cyfryngau (81 y cant) oddi wrth ddarllenwyr print, gyda 12 y cant yn dod o'r digidol. Mae'r sefydliadau hyn wedi gwastraffu'r cyfle i fuddsoddi mewn digidol. Yn lle hynny, maent wedi mynd ati i dorri swyddi. I raddau helaeth, mae'r sefydliadau cyfryngau hyn wedi rhedeg model sy'n disgwyl elw o fwy nag 20 y cant, sydd heb ei debyg mewn sectorau eraill. Wrth i'r elw gael ei wasgu (a buont yn gwario'n annoeth pan oedd pethau'n ffynnu), eu hunig erfyn i dawelu'r cyfranddalwyr oedd torri staff heb ofal dyladwy am ansawdd y cynnyrch roeddent yn ei gynhyrchu. Mae behemothiaid y cyfryngau, fel Gweplyfr a Google, yn llyncu hysbysebu ac yn hwfro'r cynnwys oddi wrth sefydliadau newyddion y cyfryngau. Mae adroddiad yr Ymgynghorwyr Strategaeth OC&C yn rhagweld y bydd Gweplyfr a Google wedi cipio cyfran o 71 y cant o gyfanswm y farchnad hysbysebu erbyn 2020. Nododd eu hadroddiad: “Mae'r raddfa a'r cyflymder hyn yn alwad grymus am weithredu gan y cwmnïau cyfryngau. Pan fydd [Gweplyfr a Google] wedi cyrraedd 70 y cant o'r farchnad hysbysebu ar-lein, ni fydd hynny'n gadael llawer o le ar ôl yn rhywle arall.” Dylai'r Cynulliad ddefnyddio'i ddylanwad i geisio perswadio Google a'i debyg i gynorthwyo mentrau newydd yng Nghymru.

5.     Gall y Cynulliad chwarae rhan hanfodol wrth edrych ar ffyrdd o gynyddu buddsoddiad mewn newyddiaduraeth o ansawdd. Mae'r NUJ wedi galw am ddefnydd strategol o hysbysebu gan lywodraeth leol a chanolog, a chredydau treth ac eithriadau treth i gyfryngau lleol sy'n bodloni dibenion cyhoeddus tra ddiffiniedig.

6.     Mae'r stori druenus am gau hyb is-olygu Newsquest yng Nghasnewydd yn enghraifft lesol o fuddsoddiad mewn newyddiaduraeth gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gamleoli'n enbyd. Roedd yr hyb, a gyflogai 70 o bobl ar un adeg, yn golygu deunydd copi ar gyfer papurau newydd cyn belled i ffwrdd a'r Alban ar ôl i Newsquest ddiswyddo staff cynhyrchu ar eu teitlau. Talodd Llywodraeth Cymru £340,000 i Newsquest, sy'n perthyn i'r cwmni tra phroffidiol Americanaidd, Gannett, i sefydlu'r hyb. Mae'n debyg i'r grant gael ei rhoi ar yr amod bod y gweithwyr yn cael eu cyflogi tan o leiaf 2020. Adroddodd Newsquest elw o 20 y cant, sef £69 miliwn, ar drosiant o £279 miliwn yn y flwyddyn pan dderbyniodd y rhodd gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod Newsquest hefyd wedi derbyn cymorth o fwy na £95,000 dan y rhaglen Sgiliau Twf Cymru yn 2013/2014. Mae'r hyb wedi cau bellach, gyda'r 14 o staff oedd ar ôl yn colli eu swyddi.

7.     Y wers i'w dysgu o'r ffiasgo yng Nghasnewydd yw bod angen ymagwedd fwy strategol. Cafodd y Port Talbot Magnet, cwmni cydweithredol cymunedol dielw, ei sefydlu saith mlynedd yn ôl gyda grant o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Carnegie. Er iddo gyhoeddi llawer o storïau ac iddo fod yn boblogaidd gyda’i ddarllenwyr, oherwydd y pwysau economaidd ar yr holl fusnesau ym Mhort Talbot ar ôl yr argyfwng dur, roedd yn amhosibl cynnal gwasanaeth newyddion lleol drwy hysbysebu yn unig, ac ym mis Medi 2016 cafodd y papur ei gau. Dyma'r union fath o fenter ddylai fod wedi cael cefnogaeth. Dylid darparu grantiau i fentrau cyfryngau newydd a dylai'r Cynulliad fod yn annog cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill i'w cefnogi drwy hysbysebu a nawdd.

8.     Mae'r NUJ o'r gred y dylai papurau newydd gael statws asedau cymunedol gyda rheolau newydd i atal allfeydd cyfryngau lleol rhag cau yn ddirybudd, a chynnig teitlau i ddarpar berchenogion newydd, yn cynnwys mentrau cydweithredol lleol, gan neilltuo amser ar gyfer cyflwyno cais am berchenogaeth amgen ar y cyfryngau cyn i unrhyw achos o gau ddigwydd.

9.     Cyfryngau Cymru Trinity Mirror yw’r cyhoeddwr newyddion lleol blaenllaw yng Nghymru, yn berchen ar y papurau dyddiol, y Western Mail, y Daily Post a’r South Wales Echo, ynghyd â chasgliad o fwy na 10 cyhoeddiad wythnosol yn cwmpasu ardaloedd yn ne ac yng ngogledd Cymru. Mae Trinity Mirror wedi cymryd y teitlau Local Word drosodd, sef y South Wales Evening Post dyddiol a dau deitl wythnosol – y Carmarthen Journal a'r Llanelli Star. Mae hyn wedi arwain at gyfuno gwefan y South Wales Evening Post yn Abertawe â'i blatfform, Wales Online. Yn 1999 roedd bron 700 o staff golygyddol a chynhyrchu yng Nghyfryngau Cymru. Ar ddiwedd 2015 roedd Cyfryngau Cymru'n cyflogi 100 o staff cynhyrchu, ynghyd â 57 mewn gwerthiant a dosbarthu ac 11 mewn rolau gweinyddol. Nid yw Trinity Mirror yn ceisio cuddio'i arfer o dorri'r hyn a ddisgrifia'n "rolau traddodiadol" a'u newid am rolau sydd â ffocws mwy digidol. Mae'r NUJ yn pryderu bod hyn yn arwain at golli arbenigwyr gohebu sy'n awdurdodau yn eu maes. Mae model busnes Trinity Mirror yn seiliedig ar gynyddu nifer yr ymwelwyr i'w wefannau, a'r pryder yw bod hyn yn creu mwy o bwyslais ar ddeunydd ysgafnach, o’r math dull o fyw, ar draul ymdriniaeth fwy traddodiadol o gynghorau. Gyda'r ystafelloedd newyddion wedi eu tocio’n llym, mae ein haelodau wedi sylwi bod y duedd hon yn cyflymu, gan beri gofid mawr o ran yr angen am i etholwyr fod yn fwy gwybodus.

10. Mae pobl yn gwneud eu gorau gydag adnoddau sy'n lleihau'n barhaus, ond mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd. Fodd bynnag, oherwydd ymroddiad ein haelodau a'r oriau hir maent yn gweithio, mae newyddiaduraeth o ansawdd yn dal i fodoli, er enghraifft yr ymdriniaeth wrth goffáu 50 mlynedd ers Trychineb Aberfan fis Hydref diwethaf, a gafodd ganmoliaeth eang.

11. Y llynedd, penderfynodd aelodau'r NUJ yn Trinity Mirror Gogledd Cymru bleidleisio dros weithredu diwydiannol oherwydd cynlluniau'r cwmni i symud gohebydd gwleidyddol y Daily Post i Ogledd Cymru, a olygai nad oedd arbenigwr yng Nghaerdydd i ymdrin â Chynulliad Cymru. O ganlyniad i'r cynlluniau, gadawyd rolau heb eu llenwi, yn cynnwys golygydd gweithredol y papur newydd, a diswyddwyd un gohebydd digidol. Roedd hyn ar ôl i ddau gyn-ohebydd y Daily Post gael eu symud o fewn Trinity Mirror heb ail-lenwi’r swyddi hynny.

12. Fel rhan o gynllun gohebwyr democratiaeth leol y BBC (LDRs), sy'n defnyddio £8 miliwn o arian talwyr ffi’r drwydded i ariannu gohebwyr i weithio i bapurau newydd lleol sy'n perthyn i gwmnïau masnachol ac sy'n ymdrin â chynghorau, mae Cymru wedi rhoi dyraniad o 11 LDR, fel y'u gelwir. Mewn gohebiaeth gyda'r AC Cynulliad Cymru, Simon Thomas, ar ddiswyddo gohebydd gwleidyddol y Daily Post oedd yn ymdrin â'r Cynulliad o Gaerdydd, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Trinity Mirror, Simon Fox: “Mae'n werth i chi wybod ein bod yn parhau i drafod gyda'r BBC ynglŷn â gweithio synergaidd. Yn sgil hyn, efallai bydd gwelliannau ychwanegol i'n hymdriniaeth wleidyddol yn bosibl.” Mae angen cadarnhad ar yr NUJ nad yw swyddi gwag yn cael eu llenwi gan yr LDRs hyn. Byddai hyn yn ddefnydd sinigaidd iawn o'r cynllun.

13. Clywodd newyddiadurwyr yn y Daily Post bod eu swyddfa'n cau drwy ddatganiad i'r wasg gan archfarchnad Lidl, sy'n bwriadu cymryd y safle drosodd i'w ailddatblygu. Bydd staff y papur newydd yn cael eu symud i gyfleusterau newydd pum milltir i ffwrdd ym Mae Colwyn yn ddiweddarach eleni ar ôl 16 mlynedd yn Vale Road, Cyffordd Llandudno, Cymru. Mae gan y teitl gylchrediad dyddiol cyfartalog o 21,802 o gopïau ac mae'n cofnodi 99,963 o ymwelwyr dyddiol unigryw i'w wefan, yn ôl ffigurau diweddaraf ABC. Bydd tîm y Post yn rhannu lle gyda staff y gyfres bapurau, y North Wales Weekly News, y Caernarfon and Denbigh Herald, a'r Bangor and Holyhead Mail yn y swyddfa newydd – sef cyfanswm o 30 o newyddiadurwyr. Dywedodd  y Press Gazette na fu unrhyw ymgynghori â'r staff ac nid oeddent yn gwybod dim am y peth nes iddynt ddarllen y datganiad i'r wasg gan Lidl.

14. Mae trefi sylweddol yng Nghymru heb bapur newydd lleol neu newyddiadurwyr proffesiynol i'w cynrychioli, fel Castell-nedd a Phort Talbot (poblogaeth gyfunol o 88,000), ers i'w papurau newydd gael eu cau gan Trinity Mirror yn 2009. Roedd poblogaeth bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, yr wythfed awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru, yn 141,000 yn ôl cyfrifiad 2011.

15. Yn Ebrill 2015, ymgasglodd mwy na 100 o bobl, yn cynnwys arweinwyr cyngor ac ASau lleol yn Sgwâr y Pendist, Caernarfon, i brotestio yn erbyn cynnig Trinity Mirror i gau ei swyddfa yng Nghaernarfon. Roedd Caernarfon yn adnabyddus gynt fel prif ddinas yr inc yng Nghymru oherwydd ei chysylltiad hir â newyddiaduraeth, ac mae'r Caernarfon and Denbigh Herald wedi bodoli ar amrywiol ffurfiau ers 1831. Yn ôl y gyfrinfa, pe byddai'r swyddfa'n cau byddai hyn yn pellhau newyddiadurwyr yn fwy oddi wrth y cymunedau y dylent fod yn eu gwasanaethu, ac yn effeithio ar y gwasanaeth Cymraeg y gallai'r cwmni ei gynnig i gwsmeriaid a darllenwyr.

16. Mae'r NUJ wedi bod yn adrodd ar y problemau yn y diwydiant yng Nghymru ers tro. Dywedodd Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol yr NUJ, wrth y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar y cyfryngau yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2012: "Wrth i  grwpiau papurau newydd lleol gael eu prynu gan uwchgwmnïau mawr sydd â’u pencadlys yn Llundain a'r Unol Daleithiau, mae papurau newydd yng Nghymru wedi gweld eu bod yn colli eu llais unigryw. Mae'r diwydiant yn dioddef oddi wrth yr argyfwng yn y DU ac yn fyd-eang – yn y saith mlynedd diwethaf, mae 20 y cant o bapurau lleol y DU wedi cau gyda dim ond 70 o lansiadau newydd. Rhoddwyd y bai ar y symudiad i'r rhyngrwyd ble mae llawer o gynnwys yn cael ei gynnig am ddim, ac ar y gostyngiad mewn refeniw hysbysebu a achoswyd gan y dirwasgiad a chylchrediadau gostyngol. Ond nid yw mor syml â hynny. Rhwng dechrau 2003 a diwedd 2007, roedd maint elw cyfartalog Cyfryngau Cymru yn 34 y cant, gan gyrraedd brig o 38 y cant dros y 12 mis tan ddiwedd 2005. Oherwydd yr elw hwn, roedd Cyfryngau Cymru’n un o'r cwmnïau mwyaf proffidiol o unrhyw fath yng Nghymru, heb sôn am yn niwydiant y cyfryngau. Ond ni chafodd yr elw hwn ei fuddsoddi yn y busnes. Pan adawodd Sly Mailey, Prif Weithredwr Trinity Mirror, y grŵp, roedd wedi pocedu mwy na £14 miliwn er bod y gweithlu wedi ei haneru bron iawn ac er bod pris y cyfranddaliadau wedi plymio o 90 y cant yn ystod ei daliadaeth."

17. Un o ymatebion cyffredin perchenogion fel Trinity Mirror yw nodi eu henillion sylweddol o ran eu cyfran o'r gynulleidfa ddigidol, ond mae hyn yn cuddio’r golled o newyddiadurwyr a'u profiad, a'r golled ddilynol o’r ymdriniaeth o'r gymuned leol wrth i ystafelloedd newyddion gael eu canoli'n fwyfwy. Mae papurau newydd print yn parhau i fod yn adnoddau pwysig i lawer o gymunedau, ond yn bwysicach na’r rhain mae'r newyddiadurwyr a gyflogir ganddynt, eu dyletswyddau i brofi gwybodaeth, a’r craffu a ddarperir ganddynt er mwyn gwasanaethu democratiaeth leol. Cynhaliwyd ymchwil yn ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd i effaith ‘y tyllau duon newyddion’ fel y'u gelwir ar gynulleidfaoedd. Astudiodd yr ymchwil dref Port Talbot ar ôl i'w phapur newydd wythnosol, y Port Talbot Guardian, gau yn 2009. Dyma rai o’r casgliadau:

          Roedd pobl leol yn dra dibynnol ar glywed eu newyddion ar lafar, sy'n golygu bod sïon a gwagddyfalu yn nodweddion allweddol mewn unrhyw ddadl neu drafodaeth gyhoeddus.

          Roedd sefydliadau lleol yn anrhyloyw ac roedd yn anodd i aelodau o'r cyhoedd lywio o'u cwmpas, i gael gwybodaeth, i gael atebion i'w ymholiadau, neu i gwyno.

          Roedd pobl yn syrthio nôl ar ddulliau anghonfensiynol o gael gwybodaeth, yn cynnwys graffiti protestio.

          Roedd rhwystredigaeth a dicter yn gyffredin ac roedd hyn yn fwyaf nodedig ymhlith aelodau ieuaf y gymuned. Byddent yn siarad yn bur faith am eu parodrwydd i derfysgu er mwyn i'w lleisiau gael eu clywed.

          Roedd y ddarpariaeth newyddion drwy'r cyfryngau traddodiadol wedi gwaethygu o ran ei hansawdd ers degawdau lawer wrth i adnoddau gael eu tynnu'n ôl o'r ystafelloedd newyddion, ond gwaethygodd y marcwyr ansawdd pwysig yn gyflymach fyth pan gafodd newyddiadurwyr eu hafleoli o'u cymunedau ar ôl cau swyddfeydd ardal y ddau bapur newydd lleol olaf.

          Un o'r casgliadau arwyddocaol oedd bod cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd yn etholiadau'r cyngor, Cynulliad Cymru a’r etholiadau cyffredinol – a oedd yn hanesyddol yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol yn etholaeth leol Aberafan – wedi gostwng ac yna wedi aros islaw'r cyfartaledd cenedlaethol oddi ar yr amser pan gaeodd swyddfeydd ardal y papurau newydd. Mae hyn yn awgrymu’n foel bod diffyg democrataidd difrifol yn debygol o ddod i’r amlwg ar ôl tynnu newyddiadurwyr print lleol o'r gymuned.

18. Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Trinity Mirror ei fod yn cau gwasg argraffu Caerdydd gan effeithio ar 33 o swyddi.

19. Torrwyd mwy na 100 o swyddi yn BBC Wales ers 2012, gyda £10 miliwn yn cael ei slaesio o'r cyllidebau rhaglennu yn yr un cyfnod. Mae'r buddsoddiad mewn rhaglennu Saesneg wedi gostwng o 32 y cant mewn termau real yn ystod y degawd diwethaf.  Er gwaethaf hyn, mae'r BBC yng Nghymru yn parhau i chwarae rhan ganolog ym mywydau pobl Cymru. Mae gan BBC Wales ddau ohebydd a chynhyrchydd sy'n ymdrin â San Steffan.

20. Mae'r cyllid ar gyfer S4C wedi ei dorri o £18.2 miliwn ers 2009. Mae 18,000 o wylwyr yn gweld pob pennod o'i fwletin newyddion, Newyddion 9, tra bod pob pennod o’r rhaglen ddadlau wleidyddol, Pawb a'i Farn, yn denu 13,000 o wylwyr. Denodd S4C gynulleidfaoedd o dros 20,000 yn rheolaidd ar gyfer yr ymdriniaeth o'r eisteddfodau yn 2014/15.

21. Nid oes cyllideb gyhoeddedig ar wahân ar gael ar gyfer ITV Cymru Wales, ond mae amcangyfrifon seiliedig ar ffynonellau Ofcom yn ei gosod ar tua £7 miliwn. Y gyllideb gyffredinol ar gyfer holl allbwn Rhanbarthol Saesneg a Chymraeg ITV yw £64 miliwn, sydd wedi gostwng o’r swm blaenorol o dros £100 miliwn, ac sydd bellach wedi ei rewi yn nhermau arian parod. Mae'r bwlch rhwng uchelgais y gwneuthurwyr rhaglenni a'u hadnoddau ariannol yn amlwg weithiau, er enghraifft, nid oedd cyflwyniad wrth ochr y cae yn rhaglenni cwpan y byd rygbi ITV Cymru Wales, yn wahanol i rwydwaith ITV (ac S4C).

22. Tua 10 mlynedd yn ôl yng Ngogledd Cymru, roedd cynnig ar-lein y BBC yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth newyddion penodedig a gweithrediad cylchgronau, ar ffurf y timau Where I Live. Roedd gan BBC Bangor a BBC Wrecsam eu cynhyrchydd, ymchwilydd a gohebydd newyddion eu hun yn canolbwyntio ar wasanaethu rhanbarthau gogledd-orllewin Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru. Aberthwyd y gwasanaethau hyn mewn ad-drefnu a sbardunwyd gan gwynion y diwydiant papurau newydd fod y BBC yn mynd y tu hwnt i'w gylch gwaith ac yn effeithio ar bapurau newydd lleol. O ganlyniad, cyfunwyd rôl un cynhyrchydd yng Ngogledd Cymru â'r gwasanaethau newyddion ar-lein cyffredinol, ar y cyd â'r ddau ohebydd. Diflannodd y swyddi ymchwilwyr yn llwyr, ac ymddiswyddodd cynhyrchydd arall yn wirfoddol. Cafodd safleoedd Where I Live eu cau a thybiwyd bod yr angen am newyddion lleol yn cael ei fodloni gan y mynegeion newyddion rhanbarthol.

23. Nawr mae tair swydd yn rhedeg y rhaglen Saesneg, News Online, yng ngogledd Cymru – hanner y nifer oedd yno 10 mlynedd yn ôl. Ond nid oes yr un aelod o'r tîm ar-lein hwn ar gyfer Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar ymdrin â storïau Gogledd Cymru. Maent yn rhan o'r cymysgedd sifftiau ar-lein cyffredinol, yn gweithio rotâu i gynnal y safle a storïau o safbwynt Cymru gyfan.

24. Mae ad-drefnu gwasanaethau BBC Cymru oherwydd y cwynion gan y diwydiant papurau newydd wedi gwaethygu’r sefyllfa honno, ac ymateb y diwydiant papurau newydd i hyn oedd peidio â buddsoddi yn y bwlch lleol canfyddedig a adawyd gan y BBC – ond yn hytrach, cyflymu'r toriadau i'w ohebu lleol. Ond, a ddylai cyrff cyhoeddus, fel y BBC, fod yn buddsoddi arian ffi’r drwydded yn y sector preifat, yn hytrach nag yn ôl yn ei wasanaethau lleol ei hun? Nid yw hanes diweddar buddsoddiad papurau newydd lleol yn eu newyddiaduraeth lleol eu hun yma yng Ngogledd Cymru yn magu llawer o hyder.

25. Mae diffyg lluosogrwydd y cyfryngau yn broblem fawr yn y wasg yn y DU. Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan yr NUJ bod 45 y cant o'r 380 o Ardaloedd Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cael eu gwasanaethu gan un cyhoeddwr papurau newydd rhanbarthol oedd yn darparu un neu fwy o deitlau. Felly, roedd marchnad papurau newydd rhanbarthol y DU yn cynnwys 165 o fonopolïau lleol. Yn ôl dadansoddiad o allbwn digidol papurau newydd lleol, nid oedd unrhyw effaith ar y diffyg lluosogrwydd yn aml wrth ystyried y ddarpariaeth newyddion ar-lein gan deitlau rhanbarthol.

          Mapio newidiadau mewn newyddion lleol 2015-2017: mwy o newyddion drwg i ddemocratiaeth? Dr Gordon Neil Ramsay, dirprwy gyfarwyddwr canolfan astudio'r cyfryngau, cyfathrebu a grym yn King's College Llundain https://www.nuj.org.uk/documents/mapping-changes-local-news-2017/

          Taith i ganol twll du newyddion: archwilio'r diffyg democrataidd mewn tref heb bapur newydd, Rachel Howells https://www.nuj.org.uk/documents/journey-to-the-centre-of-a-news-black-hole-examining-the/